Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd
Prosiect Ymchwil Addysg Ddwyieithog mewn Ysgolion yng Nghymru

Cefndir
Mae addysg ddwyieithog (h.y. Cymraeg a Saesneg) yn digwydd ar raddfa eang yng Nghymru. Erbyn hyn, mae amrywiaeth sylweddol yn bodoli yn y ddarpariaeth addysg ddwyieithog ac, fel yn achos ieithoedd lleiafrifol mewn rhanbarthau eraill yn Ewrop, mae addysg ddwyieithog yng Nghymru yn gyfuniad o addysg iaith treftadaeth (Cymraeg Iaith 1af) ac addysg drochi (Cymraeg 2il Iaith).
Oherwydd bod addysg ddwyieithog ledled Cymru yn cael ei nodweddu gan "amrywiaeth caleidoscopig" (Baker 1993), mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu mewn dosbarthiadau dwyieithog.
Ymchwil
Prosiect Ymchwil Addysg Ddwyieithog mewn Ysgolion yng Nghymru yw'r arolwg cynhwysfawr cyntaf o'i fath o ddulliau addysgu a dysgu dwyieithog mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg. Cafodd yr ymchwil ei lywio gan ddau gwestiwn: (1) Sut y defnyddir dwy iaith ar gyfer addysgu a dysgu mewn dosbarthiadau dwyieithog Cymraeg / Saesneg? (2) A ellir canfod arferion cyffredin yn deillio o ddulliau o ddyrannu iaith yn yr ystafell ddosbarth?
Rhwng mis Rhagfyr 2007 a Chwefror 2010, cwblhawyd cyfanswm o 100 o arsylwadau gwersi mewn 29 o ysgolion ledled Cymru, yn adlewyrchu cefndiroedd cymdeithasol-ieithyddol gwahanol: 55 arsylwadau mewn cyfanswm o 10 o ysgolion uwchradd a 45 arsylwadau mewn cyfanswm o 19 o ysgolion cynradd.
Cynhaliwyd cyfweliadau ynghylch polisi dwyieithog a dyraniad iaith mewn 38 o ysgolion:17 o gyfweliadau mewn ysgolion uwchradd a 21 o gyfweliadau mewn ysgolion cynradd.
Canlyniadau cychwynnol
Rhan allweddol o'r arsylwi oedd dosbarthu pob un o'r 100 gwersi o ran defnyddio dwy iaith, a chyflwyno teipoleg o drefniadau iaith mewn ysgolion dwyieithog yng Nghymru.
Astudiwyd y defnydd o gyfieithu a thrawsieithu gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol.
Archwiliwyd trefniadau defnyddio un iaith a defnyddio dwy iaith yn y dosbarth, a chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig â chefndir ieithyddol y disgyblion, proffil iaith y disgyblion yn yr ystafell ddosbarth, gwahaniaethau oedran, a phwnc y wers.
Mae'r canlyniadau cychwynnol o'r ymchwil yn awgrymu llwybrau penodol i'w harchwilio ymhellach yn hytrach na chasgliadau pendant , e.e. os defnyddir dwy iaith ar y cyd mewn gwersi, yna efallai y bydd angen i ni wrando ar safbwyntiau’r plant eu hunain sydd yn defnyddio'r ddwy iaith yn y dosbarth.
YMCHWIL ADDYSG DDWYIEITHOG YN YSGOLION CYMRU
Cyflwyniad Poster: 'Kaleidoscopic variety: Bilingual Education in Wales Today',
8th International Symposium on Bilingualism (ISB8). Oslo, 15-18 Mehefin 2011.
Cliciwch yma.
CYNLLUNIO ADDYSG DDWYIEITHOG

GWEITHREDU ADDYSG DDWYIEITHOG

Y MANTEISION O FOD YN DDWYIEITHOG

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Noder: Argymhellir gwneud clic-dde ("right-click") a "save-as" i safio'r ffeiliau .pps/.ppsx i rhywle cyfleus ar eich cyfrifiadur (e.e. "My Documents" neu'r Bwrdd-Gweithio ("Desktop")) ar y linciau sydd gyda'r llythyren groegaidd zeta (h.y. ζ), yn hytrach na clicio fel arfer.