Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd

Enw:

Dr Gwyn Lewis

Swydd:

Cydweithiwr Ymchwil, Grwp 4

Ebost:

Lleoliad:

Hiraethog, Safle'r Normal

Ffon:

+44 (0)1248 383108

Bywgraffiad

Brodor o Gaernarfon yw Gwyn Lewis a mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yn y dref cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor a mynd ymlaen i ennill doethuriaeth yno ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Bu'n Bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ac yn Ymgynghorydd Addysg Gymraeg i Awdurdod Addysg Gwynedd cyn ei benodi ar staff y Coleg Normal (wedyn, Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor). Fe'i dyrchafwyd yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes yn 2007, gyda chyfrifoldeb penodol fel Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu.
Ei ddiddordebau ymchwil yw addysg Gymraeg a dwyieithog, dwyieithrwydd, a datblygiad ieithyddol plant, yn enwedig lle mae dwy iaith yn cael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i drosglwyddo cynnwys. Mae wedi dal amryw o swyddi ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn y gorffennol sy'n adlewyrchu'r arbenigedd hwn. Mae'n gyd-olygydd cyfres Trafodion Addysg – Education Transactions ac mae ar Fwrdd Golygyddol Gwerddon, cyfnodolyn academaidd newydd ar y we a sefydlwyd i gyhoeddi papurau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg. O dan nawdd y Ganolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd a sefydlwyd ym Mangor yn 2007, mae'n ymchwilio ar hyn o bryd i agweddau ar addysg iaith treftadaeth ac addysg drochi yng nghyd-destun ysgolion Cymraeg a dwyieithog.

Diddordebau Ymchwil

Addysgu presennol
• Cyrsiau israddedig ac ôl-radd: BA, BSc, a TAR
• Arolygu myfyrwyr ymchwil MA/MEd a PhD

Prosiectau

• Amrywiol brosiectau yn ymwneud ag addysg Gymraeg (fel Prif Archwilydd Cymraeg ACCAC, 2001-2006).
• Aelod o dîm ymchwil Prifysgolion Efrog a Lincoln ar brosiect i roi 'Cyngor arbenigol ar ddarpariaeth 14-19 oed yng Nghaerdydd' (cyfrifoldeb penodol am agweddau yn ymwneud ag addysg Gymraeg yn ysgolion uwchradd y ddinas).

Detholiad o Gyhoeddiadau

'Cymraeg Iaith Gyntaf yn yr Ysgol Uwchradd', yn Addysg Gymraeg – Addysg Gymreig (gol. Gareth Roberts a Cen Williams), tt. 208-234, Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, 2003.
'Addysg Gynradd Gymraeg: Trochi ac Ymestyn Disgyblion', yn Cylchgrawn Addysg Cymru/The Welsh Journal of Education, Cyfrol 12(2), tt. 49-64, 2004.
'Datblygiad Iaith yng Nghylchoedd Mudiad Ysgolion Meithrin' (ar y cyd ag Elen Gareth), yn Cylchgrawn Addysg Cymru/The Welsh Journal of Education , Cyfrol 13(1), tt. 44-68, 2004.
'Addysg Gynradd Gymraeg: Her a Chyfle yr Unfed Ganrif ar Hugain' yn Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog/Welsh-Medium and Bilingual Education, Trafodion Addysg/Education Transactions, Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, 2006.

Gwybodaeth Bellach

Cyfrifoldebau

• Dirprwy Bennaeth y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes: Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu
• Cadeirydd Bwrdd Astudiaethau y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes
• Cadeirydd y Grwp Tasg Addysgu a Dysgu
• Cadeirydd y Grwp Tasg Sicrhau Ansawdd
• Cadeirydd y Grwp Tasg Iaith
• Cyfunwr Astudiaethau Pwnc Cymraeg yn y cwrs TAR Uwchradd
• Cadeirydd Gweithgor Astudiaethau Pwnc yn y BA(SAC)
• Trefnydd modiwl Astudiaethau Pwnc yn y BA (SAC)
• Arholwr mewnol ar gyfer graddau ymchwil: MA/MEd, MPhil, PhD
• Cadeirydd Panel Maes Addysg, Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru
• Cydolygydd cyfres Trafodion Addysg – Education Transactions

Cymwysterau

• BA(Anrh) Dosbarth I mewn Cymraeg/Llenyddiaeth Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Bangor
• PhD mewn Llenyddiaeth Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Bangor
• Tystysgrif mewn Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth

Swyddi blaenorol

• 1979-82: Tiwtor yn Adrannau Cymraeg ac Efrydiau Allanol, Prifysgol Bangor
• 1983-88: Pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug
• 1988-93: Ymgynghorydd Addysg Gymraeg, Awdurdod Addysg Gwynedd
• 1993-2006: Darlithydd mewn Addysg Gymraeg, Y Coleg Normal/Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor.