Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd

Dr Gwyn Lewis
Darlithydd mewn Addysg (Cymraeg)
Hiraethog, Safle'r Normal
+44 (0)1248 383108
Brodor o Gaernarfon yw Gwyn Lewis a mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yn y dref cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor a mynd ymlaen i ennill doethuriaeth yno ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Bu'n Bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ac yn Ymgynghorydd Addysg Gymraeg i Awdurdod Addysg Gwynedd cyn ei benodi ar staff y Coleg Normal (wedyn, Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor). Fe'i dyrchafwyd yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes yn 2007, gyda chyfrifoldeb penodol fel Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu.
Ei ddiddordebau ymchwil yw addysg Gymraeg a dwyieithog, dwyieithrwydd, a datblygiad ieithyddol plant, yn enwedig lle mae dwy iaith yn cael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i drosglwyddo cynnwys. Mae wedi dal amryw o swyddi ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn y gorffennol sy'n adlewyrchu'r arbenigedd hwn. Mae'n gyd-olygydd cyfres Trafodion Addysg – Education Transactions ac mae ar Fwrdd Golygyddol Gwerddon, cyfnodolyn academaidd newydd ar y we a sefydlwyd i gyhoeddi papurau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg. O dan nawdd y Ganolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd a sefydlwyd ym Mangor yn 2007, mae'n ymchwilio ar hyn o bryd i agweddau ar addysg iaith treftadaeth ac addysg drochi yng nghyd-destun ysgolion Cymraeg a dwyieithog.
Cliciwch yma am dudalen personol ychwanegol.